Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 23 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 15.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Alun Ffred Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Jeff Cuthbert AC Russell George AC Llyr Gruffydd AC Julie Morgan AC William Powell AC Jenny Rathbone AC Antoinette Sandbach AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru Rosemary Thomas, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Andrew Charles, Llywodraeth Cymru Amina Rix, Llywodraeth Cymru Louise Gibson, Lawyer, Llywodraeth Cymru Sioned Rees, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Ail Clerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Adam Vaughan (Dirprwy Glerc) Peter Hill (Dirprwy Glerc) SeatonN (Ymchwilydd) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro
1.1 Cafodd William Powell ei ethol yn Gadeirydd dros dro.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
3 Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – Cyfnod 1: Sesiwn dystiolaeth 14
3.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i:
· Ddarparu eglurhad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio statws Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer dangosyddion sy'n cael eu datblygu i fesur cynnydd o ran cyflawni'r nodau lles;
· Egluro sut y bydd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cyd-fynd ac yn rhyngweithio ag egwyddorion, strwythurau a'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Amgylchedd arfaethedig;
· Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r Bil ac i egluro'r pryderon y mae wedi'u codi o ran ei bwerau, yn dilyn ei gyfarfod gydag ef.
4 Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Trafod y dystiolaeth
4.1 Bu aelodau'r pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yn hyn mewn perthynas â Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
5 Ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru: Trafod llythyr drafft i'r Gweinidog
5.1 Cytunodd aelodau'r pwyllgor ar y llythyr.
6 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-2016: Sesiwn dystiolaeth
6.1 Bu'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Gwerthiant coedwigaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru;
· Yr effaith ar Gymru yn dilyn newidiadau Llywodraeth y DU i Rwymedigaeth y Cwmnïau Ynni; a
· Nifer cynlluniau Ynni'r Fro a'u lleoliad ledled Cymru.
6.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Goblygiadau ariannol Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014; a'r
· Cydgysylltu o ran gwariant y Llywodraeth ar ddigwyddiadau hyrwyddo bwyd.
7 Papurau i'w nodi
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Rhagor o wybodaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru
7.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Rhagor o wybodaeth gan Gynghrair Cynhalwyr Cymru
7.2 Nododd y Pwyllgor y papur.
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Rhagor o wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
7.3 Nododd y Pwyllgor y papur.
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i'r llythyr gan y Cadeirydd
7.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi
7.5 Nododd y Pwyllgor y papur.
Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Rhagor o wybodaeth gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi
7.6 Nododd y Pwyllgor y papur.
8 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-2016: Trafod y dystiolaeth
8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.